Skip to main content

“Dydyn nhw’n aml ddim yn gweld gwerth y peth… [data am asedau corfforol- adeiladau ac ati] heblaw pan fyddan nhw’n ei weld go iawn [ar fap] a sut mae’n edrych a beth mae’n ddweud wrthyn nhw. Ond erbyn hynny maen nhw’n meddwl o, ‘falle nad ydy hynna’n iawn” P2

Gydag un llygad ar y dreth trafodiadau tir ranbarthol sydd ar ddod ac un arall ar olwg fwy cyfannol ar ddata tir ac eiddo ledled Cymru mae ein tîm wedi bod yn archwilio’r prosesau, y nodau a’r heriau mewn perthynas â data daearyddol o fewn amrywiaeth o sefydliadau yn y sector cyhoeddus.

Roedd yn foment gyffrous i ni pan glywsom gan gyfranogwr yn ein rownd olaf o ymchwil y gall data, o’i weld ar fap, fod yn foment drawsnewidiol. Fe glywsom nad yw data, sydd ddim o bosibl yn allweddol i swyddogaeth gyflawni sefydliad, yn cael gofal da nac yn hollol gywir bob amser (fel yn y dyfyniad uchod). Fe glywsom sut y cafodd y sefydliad, o weld y data data wedi’i fapio, ei ysgogi i gywiro’r data hwnnw a sylweddoli ei wir bwysigrwydd iddyn nhw.

Clywsom hefyd sut y gwnaeth gweld delweddau o’r un data hwnnw ar fap harneisio’r egni i roi prosesau ar waith i ofalu am y data hwnnw a’i reoli wrth symud ymlaen lle na fu awydd o’r blaen. Ac wrth gwrs – yn sydyn- fe drawsnewidiodd yr hyn yr oedden nhw’n ei wybod oherwydd ei fod yn cyflwyno’r data iddyn nhw mewn ffordd wahanol, ddiriaethol.

Heriau strwythurol casglu data ynghyd

Yr hyn a ddarganfu ein hymchwil hefyd oedd anawsterau strwythurol dod â setiau data at ei gilydd. Wrth gwrs does dim byd newydd am heriau paru data ond mae’n aml yn syndod sut y gall pethau bach iawn achosi problemau mor fawr. Gall sut rydych chi’n diffinio strwythur data cyfeiriad – arwain at ddata na ellir ei gyfateb ar draws sefydliad – heb sôn am ar draws sawl sefydliad.

Clywsom am yr her sy’n wynebu un sefydliad wrth iddyn nhw geisio creu un fersiwn o’r gwirionedd – e.e. un man lle cedwir y cyfeiriad ar gyfer dinesydd neu eiddo - yn hytrach na sawl cronfa ddata i gyd gyda fersiynau gwahanol o bosibl.

O’n safbwynt ni, wrth feddwl am blatfform data tir ac eiddo, pan fyddwch chi eisiau edrych ar draws cyfres o setiau data o ystod o sefydliadau, yn sydyn mae pob fersiwn unigol o’r gwirionedd (os yw’n bodoli ar gyfer y sefydliad hwnnw) yn wahanol i fersiwn sefydliad arall o’r gwirionedd.

Mae hyn i gyd yn codi’r cwestiwn ym mhle ddylai’r cyfrifoldeb fod dros reoli data am rywbeth mor ddiniwed â chyfeiriad? Ai o fewn un sefydliad fel awdurdod lleol? Ai o fewn Llywodraeth Leol yn gyffredinol? Ar lefel llywodraeth genedlaethol? Ai gyda llywodraeth DU? Ai gyda llywodraethau’n gyffredinol?

Defnyddio prototeipiau er mwyn galluogi meddwl archwiliol

Mae’r ymchwil wedi rhoi hwb newydd i’n tîm. O ganlyniad i’r hyn rydyn ni wedi’i ddarganfod rydyn ni’n dod â setiau data go iawn at ei gilydd i’r platfform data. O’r rhain rydyn ni’n bwriadu creu prototeipiau i helpu llunwyr polisi ar lefelau lleol a chenedlaethol. Rydyn ni am alluogi sgyrsiau am sut y gellid trefnu treth eiddo rhanbarthol.

Drwy ddefnyddio mapio o fewn prototeipiau gallwn archwilio; sut y gellid tynnu ffiniau ardaloedd rhanbarthol, pa ddata sy’n bodoli’n barod ac ym mhle mae data’n brin neu’n anodd ei ddefnyddio.

Ar yr un pryd, byddwn ni’n parhau i archwilio siâp posibl, gwerth ac ymarferoldeb amcan ehangach – platfform data tir ac eiddo ar draws sector cyhoeddus Cymru.

Nodiadau wythnosol

Bob wythnos rydym yn rhannu diweddariad byr ar yr hyn rydym yn ei ddysgu, ynghyd â dolenni i bethau sydd, yn ein barn ni, yn ddiddorol neu'n berthnasol.

Blog

Prototeip

Fe wnaethom adeiladu nifer o brototeipiau i brofi ein rhagdybiaethau, gallu platfform a syniadau.

Darllenwch am y prototeipiau a adeiladwyd gennym