Skip to main content

Sefydlwyd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn 2017, ac mae’n gyfrifol am gasglu a rheoli Treth Trafodiadau Tir (TTT) yn ogystal â’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yng Nghymru. Disodlodd TTT Dreth Dir y Dreth Stamp yng Nghymru ar 1 Ebrill 2018, ac mae’n berthnasol wrth brynu tir neu eiddo dros bris penodol.

Ar hyn o bryd, mae’r un rheolau’n berthnasol ar gyfer TTT waeth ble mae’r tir neu’r eiddo yng Nghymru. Felly, dim ond ar lefel p’un ai yw’r tir neu’r eiddo yng Nghymru neu y tu allan i Gymru y gofynnir i brynwyr am wybodaeth lleoliad. Mae Awdurdod Cyllid Cymru yn ymfalchïo mewn creu gwasanaethau teg, syml ac effeithlon, ac nid yw’n gofyn am ddata ychwanegol oni bai bod ganddo reswm da dros wneud hynny.

Yr her

Mae newidiadau i TTT ar gyfer y dyfodol yn cael eu hy mgynghori arnynt, a fyddai’n caniatáu i gyfraddau gwahanol o TTT gael eu cymhwyso i ardaloedd daearyddol llai am y tro cyntaf.

Er mwyn gallu cyflawni hyn, a chefnogi’r gwaith o ddatblygu trethi eiddo eraill sy’n amrywio’n ddaearyddol yn y dyfodol, byddai angen i ACC allu adnabod tir ac eiddo ar lefel fanylach nag y mae’n ei wneud ar hyn o bryd.

Mae gan ACC staff o amrywiaeth o wahanol sefydliadau a chefndiroedd sector; a nifer ohonynt hefyd yn dal neu’n defnyddio data tir ac eiddo yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys awdurdodau lleol, CThEM, y Swyddfa Brisio, Cofrestrfa Tir EM, Arolwg Ordnans, Swyddfa Ystadegau Gwladol, GeoPlace, ymhlith eraill. Helpodd hyn greu syniad: a allent, tra’n archwilio’r anghenion posibl ar gyfer cyfradd TTT ranbarthol yn y dyfodol, weithio gyda sefydliadau eraill i greu rhywbeth oedd â budd ehangach - rhywbeth a allai fod yn sylfaen ar gyfer llwyfan data tir ac eiddo ledled Cymru?

Y tîm

Cyfarfu ACC â Chanolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru yn 2021 i drafod cydweithio i greu tîm. Wedi’i letya gan ACC, byddai’n dod ag arbenigedd allanol i mewn er mwyn archwilio gofynion posibl TTT ar gyfer y dyfodol, yn ogystal â’r cyfleoedd ar gyfer llwyfan data tir ac eiddo ehangach i Gymru.  A ni yw’r tîm hwnnw.

Rydym yn dîm craidd bach, amlddisgyblaethol sy’n cynnwys arbenigwyr cynnyrch, dylunio, data a pholisi treth.

Er mai ACC sy’n lletya’r prawf o gysyniad hwn, nid ydym yn dweud y bydd yn berchen ar nac yn creu llwyfan data tir ac eiddo posibl – mae’r prosiect hwn yn ymwneud â chydweithio â sefydliadau eraill sy’n berchen ar, sy’n creu neu sy’n defnyddio data o’r fath, er mwyn deall ein holl ofynion data, a gweld beth sy’n bosibl. Ar hyn o bryd, rydym yn archwilio opsiynau, nid yn rhagfynegi canlyniadau, a fyddwn ni ddim yn gallu archwilio popeth, ond efallai y cawn syniad o ambell beth anhysbys hysbys.

Cael y wybodaeth ddiweddaraf

Rydym wedi dechrau ar gyfnod darganfod o 12 wythnos ers 17 Ionawr 2022 ac yn bwriadu gweithio yn ôl methodoleg ystwyth, ac agored.

Gallwch danysgrifio i’n nodiadau wythnosol, neu ddod draw i’n sesiynau Dangos a Dweud (ar ddyddiau Llun am 1.30pm fel arfer). E-bostiwch ni i danysgrifio, neu i gael gwybod pryd y bydd ein sesiwn Dangos a Dweud nesaf a byddwch yn derbyn dolen.

Byddwn yn rhannu beth bynnag y byddwn yn gweithio arno wrth i ni fynd yn ein blaenau, ac yn crynhoi ein canfyddiadau ar ddiwedd y 12 wythnos.

Nodiadau wythnosol

Bob wythnos rydym yn rhannu diweddariad byr ar yr hyn rydym yn ei ddysgu, ynghyd â dolenni i bethau sydd, yn ein barn ni, yn ddiddorol neu'n berthnasol.

Blog

Prototeip

Fe wnaethom adeiladu nifer o brototeipiau i brofi ein rhagdybiaethau, gallu platfform a syniadau.

Darllenwch am y prototeipiau a adeiladwyd gennym