Beth ddysgon ni o anghenion ein defnyddwyr?
Neil Butt, 16 May 2022
Mae gan brawf cysyniad 12 wythnos ffocws cryf ar ymchwil ac mae ymchwil defnyddwyr wedi arwain ein meddwl ar hyd y ffordd. Mae sgyrsiau di-ben-draw gyda llawer o bobl wedi bod yn gonglfaen y darganfod. Rydyn ni wedi dysgu llawer iawn ac yn gwybod mai dim ond newydd ddechrau ydyn ni. Mae gan y llwyfan data’r potensial i ddod â llawer o welliannau i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Er mwyn llywio’r prototeipiau a’r modelau rydyn ni wedi’u hadeiladu rydym wedi ystyried:
- pwy sy’n adeiladu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru
- beth sydd arnyn nhw eisiau o lwyfan data/a oes angen llwyfan data arnyn nhw
- a sut y byddan nhw’n ei ddefnyddio
Nod yr ymgynghoriad ar amrywio cyfraddau treth trafodiadau tir ar gyfer ail gartrefi yw newid ymddygiad. Er mwyn helpu pobl i wneud penderfyniadau gwybodus mae angen i ni ystyried sut a phryd y byddan nhw’n cyrchu gwybodaeth a pha wybodaeth sy’n eu hysgogi nhw.
Pwy, beth, pryd, ble a pham?
Fe wnaethon ni nodi tri chategori o ddefnyddwyr yr oedden ni am siarad â nhw:
-
Timau dylunio gwasanaethau – pobl sy’n adeiladu gwasanaethau ar gyfer defnydd y cyhoedd ac a fyddai o bosibl yn defnyddio llwyfan data. Beth sy’n achosi problemau iddyn nhw, beth sydd ei angen arnyn nhw a sut y bydden nhw’n ei ddefnyddio?
-
Dinesydd– Sut allwn ni gyflwyno’r llwyfan i’r dinesydd neu’r wybodaeth ynddo i’w helpu i wneud penderfyniadau gwybodus? Beth oedden nhw’n ei ystyried, ble maen nhw’n edrych, a beth maen nhw’n ei wybod yn barod?
-
Dadansoddwyr ac ymchwilwyr- Beth fyddai’n gwneud iddyn nhw ddefnyddio llwyfan data, lle mae eu diffyg mewnwelediad a gwelededd o ran data ar hyn o bryd, pa broblemau neu gyfleoedd y gallai’r llwyfan helpu i’w datrys?
Mae gennyn ni lawer iawn mwy i’w ddysgu
Mae angen i ni siarad â mwy o bobl! Wrth i ni symud i’r cam nesaf byddwn yn dal i weithio’n agored ac yn dal i siarad â chymaint o randdeiliaid â phosibl. Byddwn yn siarad â mwy o ddefnyddwyr ac yn mireinio ymchwil defnyddwyr pellach, felly os ydych chi’n meddwl bod gennych chi rywfaint o gyfraniad at hyn - cysylltwch â ni!
Canlyniadau cychwynnol
Dinesydd
- Mynegodd prynwyr cartrefi preswyl fwy o ddiddordeb ym manylion yr eiddo fel cynllun y llawr, lluniau, yr ardal ac amwynderau lleol, fel ysgolion a siopau.
- Dywedodd pob prynwr fod arian yn ffactor bwysig wrth brynu eiddo, ond roedd gan landlordiaid ystyriaethau a chymhlethdodau ychwanegol i’w hystyried wrth benderfynu a oedd eiddo’n fuddsoddiad gwerth chweil.
- Mynegodd prynwyr cartrefi preswyl fwy o ddiddordeb ym manylion yr eiddo fel cynllun y llawr, lluniau, yr ardal ac amwynderau lleol, fel ysgolion a siopau.
- Roedd pob un o’r cyfranogwyr yn ffafrio offer ar-lein yn ystod camau archwiliol eu taith prynu eiddo, gydag ymweliadau ffisegol yn digwydd unwaith yr oedd un neu ddau eiddo penodol wedi’u dewis.
- Doedd y rhan fwyaf o brynwyr preswyl a landlordiaid ddim wedi defnyddio’r gyfrifiannell TTT swyddogol nac unrhyw gyfrifiannell TTT fel rhan o’r broses prynu tŷ. Roedd y prynwyr hyn yn derbyn bod treth yn rhan gynhenid o’r broses brynu ac yn disgwyl i’w cyfreithiwr neu drawsgludydd egluro unrhyw oblygiadau treth ac ymdrin â’r gwaith papur perthnasol.
- Roedd pob un o’r cyfranogwyr yn sylweddoli bod gwahaniaeth treth rhwng y tai yn y gwahanol barthau treth. Dywedodd yr holl gyfranogwyr y byddai un eiddo’n costio mwy oherwydd treth tir leol ac y byddai un eiddo’n costio llai. Nid oedd y rhan fwyaf o gyfranogwyr yn glir ynghylch pam bod gwahaniaeth treth rhwng y ddau barth
Dadansoddwyr a thimau darparu gwasanaethau:
- Beth sydd rhaid i’r llwyfan ei gynnig er mwyn iddyn nhw ymddiried ynddo
- Sicrhau bod data’n gywir, ddim yn anghyflawn neu wedi dyddio
- Rhoi mewnwelediad “darlun mawr” sydd ddim ar gael yn unman arall ar hyn o bryd
- Gwneud data’n hygyrch, yn ddefnyddiol ac yn gyflym i gael gafael arno
- Gwneud setiau data’n hawdd i’w defnyddio a’u deall
Pa ofynion technolegol sylfaenol sydd angen eu bodloni er mwyn i’r llwyfan fod yn llwyddiannus
- Darparu sawl ffordd i ddefnyddwyr ryngweithio â’r llwyfan (API ac UI)
- Rhaid i’r llwyfan fod yn ddiogel
- haid i’r llwyfan ddarparu dogfennaeth API hawdd ei deall
- Dylai data a ddarperir trwy’r API fod mewn fformatau cyffredin h.y. JSON / Geo-JSON
- Galluogi ffrydio data
Pa ofynion technolegol sylfaenol sydd angen eu bodloni er mwyn i dimau darparu gwasanaethau ddefnyddio’r llwyfan yn effeithiol
- Dim ymdrech, neu gyn lleied o ymdrech â phosibl wrth gael mynediad i’r API cyn ymrwymo i’w ddefnyddio
- Rhestr o lyfrgelloedd cod a gefnogir
- Tudalen swagger yn disgrifio’r rheolau, y fanyleb a’r fformat ar gyfer API REST
- Gwybodaeth am berfformiad fel bod datblygwyr yn gallu bod yn dawel eu meddwlbod yr API yn ddibynadwy
- Setiau data enghreifftiol trwy’r API os oes angen cofrestru ar gyfer data go iawn
Nodiadau wythnosol
Bob wythnos rydym yn rhannu diweddariad byr ar yr hyn rydym yn ei ddysgu, ynghyd â dolenni i bethau sydd, yn ein barn ni, yn ddiddorol neu'n berthnasol.
Blog
- Pam fod anghywirdebau’n llithro i gyfeiriadau ar ffurflen y Dreth Trafodiadau Tir?
- Sut gall map baentio darlun ehangach
- Crynhoi'r Prawf o Gysyniad
- Beth ddysgon ni o anghenion ein defnyddwyr?
- Sut y gwnaethom ni ddefnyddio nodiadau wythnosol
- Beth rydym wedi ei ddysgu o weithio’n agored
- Beth yw llwyfan data?
- Croeso
Prototeip
Fe wnaethom adeiladu nifer o brototeipiau i brofi ein rhagdybiaethau, gallu platfform a syniadau.