Skip to main content
English

Mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn gyfrifol am gasglu a rheoli Treth Trafodiadau Tir (TTT) yng Nghymru.

Er mwyn darparu ein gwasanaethau, mae angen i ni allu adnabod tir ac eiddo yng Nghymru. Er mwyn cyflawni newidiadau i TTT yn y dyfodol sy’n cael eu hymgynghori arnynt, ac i gefnogi’r gwaith o ddatblygu trethi eiddo amrywiol yn ddaearyddol eraill yn y dyfodol, mae angen i ni allu adnabod tir ac eiddo mewn modd dibynadwy ar lefel fanylach nag a wnawn ar hyn o bryd.

Rydym yn archwilio sut i ddiwallu’r anghenion hyn, ond ar yr un pryd rydym wedi manteisio ar y cyfle i ystyried a allem greu rhywbeth a allai fod yn sylfaen ar gyfer defnydd ehangach, er budd Cymru.

Amdanom ni

Rydym yn dîm bach amlddisgyblaethol a letyir gan ACC, sy’n cynnwys arbenigwyr cynnyrch, dylunio, data a pholisi treth. Rydym wedi ymrwymo am 12 wythnos i archwilio’r cyfleoedd a’r heriau yn y maes hwn. Ein ffocws penodol yw sut i adeiladu ar sylfeini digidol a data cryfach, er lles Cymru. Rydym yn gobeithio dod â’r syniadau hyn yn fyw fel prawf o gysyniad - arddangosiad ymarferol o rai o’r pethau rydym yn eu harchwilio.

Wyddwn ni ddim i ble y bydd hyn yn mynd â ni, ac nid ydym ychwaith yn disgwyl mai ‘mae ACC yn gwneud y cyfan’ fydd yr ateb, felly rydym yn gweithio’n agored a byddwn yn dod â’r bobl a’r sefydliadau iawn at ei gilydd i’w archwilio gyda ni.

Nodiadau wythnosol

Bob wythnos rydym yn rhannu diweddariad byr ar yr hyn rydym yn ei ddysgu, ynghyd â dolenni i bethau sydd, yn ein barn ni, yn ddiddorol neu'n berthnasol.

Blog

Prototeip

Fe wnaethom adeiladu nifer o brototeipiau i brofi ein rhagdybiaethau, gallu platfform a syniadau.

Darllenwch am y prototeipiau a adeiladwyd gennym