Skip to main content

Mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn archwilio’r posibilrwydd o blatfform data tir ac eiddo. Mae’r tîm yn datblygu prawf o gysyniad ac wedi ymrwymo i weithio’n agored, fel rhan o arbrofi gyda ffyrdd newydd o weithio. Mae’r post hwn yn disgrifio’r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu ar hyd y daith.

Mae gweithio’n agored yn frawychus ar y dechrau ond yna’n rhoi teimlad mawr o ryddhad i chi. Roedd cyhoeddi gwefan y tîm a’r tirlun data’n teimlo’n beth mawr ar y pryd. A ddylai ACC fod yn siarad am lwyfannau tir ac eiddo? A fydd pobl y tu allan i’r tîm yn deall pam ein bod yn gwneud y gwaith yma?

Ond yna dechreuodd pobl sylwi a dweud pethau caredig.

Mae’n braf cael clod ond mae manteision eraill i weithio’n agored:

Mae bod yn agored yn gwella aliniad. Roedden ni’n meddwl ein bod yn sicr o’n hamcanion a pham ein bod yn gwneud y gwaith o’r cychwyn cyntaf ond mae’n sicr bod antur gwneud pethau’n gyhoeddus wedi’n gorfodi i egluro’r rhain cyn i ni gyhoeddi. Mae pawb yn y tîm ac o’i amgylch yn gliriach ac wedi’u halinio’n well.

Mae gweithio’n agored yn lleihau’r pryder torfol. Wedi i ni gamu i faes gweithio’n agored gallech chi deimlo’r pwysau’n disgyn o’n hysgwyddau. Roedd yn ddiogel siarad a chydweithio ag eraill o’r tu allan i’r sefydliad. Mae’r ffocws yn symud i’r gwaith, yn hytrach nag ar lunio’r neges. Mae gweithio’n agored yn brawf ar rymuso. Mae llawer o sefydliadau’n dweud eu bod yn ymddiried ynoch chi ac yn gofyn i chi fod yn chi’ch hun yn y gwaith, ond a ydyn nhw mewn gwirionedd? Pan fydd sefydliad yn annog tîm i weithio’n agored, maen nhw’n dangos eu bod yn ymddiried ynoch chi. Rydyn ni mor lwcus o ACC.

Mae gweithio’n agored yn nodwedd wych. Po fwyaf agored y gwnaethon ni weithio, y mwyaf o bobl a ddaeth i’n sesiynau Dangos a Dweud i ofyn cwestiynau da i ni; mae pobl o’r tu allan i’r sefydliad wedi gofyn am gydweithio â ni neu wedi cynnig cyngor; mae’n ein helpu i gasglu tîm ardderchog ynghyd.

Y peth ydy, dydyn ni ddim yn gwybod pwy sydd allan yna os nad ydyn ni’n eu hadnabod nhw. Fel hyn mae pobl yn gallu dod o hyd i ni a’n helpu ni i wneud y cysylltiadau. I roi enghraifft dda i chi, gwnaethon ni ddarganod fod tîm yn yr Iseldiroedd yn gweithio ar rywbeth tebyg. Fyddai hyn ddim wedi digwydd pe bai’r trafodaethau wedi’u cyfyngu i gyfarfodydd mewnol a rhestrau e-byst caeedig.

Mae gweithio’n agored yn caniatáu i eraill adeiladu ar waith sy’n bod yn barod. Rydyn ni’n dogfennu ein gwaith a’n meddwl ar GitHub. Mae’n hanes cyhoeddus y gwaith a’n meddyliau. Rydyn ni wedi adeiladu ar waith gwych pobl eraill a gobeithio y gall eraill gymryd yr hyn rydyn ni wedi’i wneud ac adeiladu arno yntau hefyd. Drwy weithio’n agored, dydy’r wybodaeth sefydliadol ddim yn mynd ar goll nac yn cael ei hanghofio ar system ffeilio fewnol.

Mae’r ffordd yma o weithio’n gyfarwydd i ACC mewn sawl ffordd. Mae lefel yr ymddiriedaeth a’r cywair yn agweddau o’r diwylliant sydd wedi’u sefydlu’n barod ond dydy hi ddim yn arferol i dimau rannu nodiadau’r wythnos a meddwl yn uchel yn yr un ffordd ag yr ydym ni wedi’i wneud gyda’r prosiect yma. Gallwn ni ddweud ei fod wir wedi’n helpu’n ni a’i wneud yn fwy pleserus. Gobeithio y bydd eraill yn rhoi cynnig arni.

Nodiadau wythnosol

Bob wythnos rydym yn rhannu diweddariad byr ar yr hyn rydym yn ei ddysgu, ynghyd â dolenni i bethau sydd, yn ein barn ni, yn ddiddorol neu'n berthnasol.

Blog

Prototeip

Fe wnaethom adeiladu nifer o brototeipiau i brofi ein rhagdybiaethau, gallu platfform a syniadau.

Darllenwch am y prototeipiau a adeiladwyd gennym