Beth yw llwyfan data?
Anthony Pritchard a Richard Pope, 2 March 2022
Fe wyddwn ni y gallai, yn y dyfodol, fod angen i ACC gefnogi trethi tir ac eiddo sy’n amrywio’n ddaearyddol, fel y newidiadau i’r Dreth Trafodiadau Tir (TTT) sy’n cael eu hymgynghori arnynt ar hyn o bryd. Rydym hefyd am allu dylunio gwasanaethau sy’n lleihau’r baich gweinyddol ar y cyhoedd a busnesau. Mae hynny’n golygu bod angen i ni allu adnabod tir ac eiddo’n ddibynadwy ar lefel fwy manwl nag yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd.
Nod y prawf o gysyniad data tir ac eiddo yw astudio’r ddau fater yma: sut y gallai platfform data gefnogi gwasanaethau yn y dyfodol a’r mathau o wasanaethau a allai fod yn bosibl yn y dyfodol. Ond beth yw llwyfan data?
Mae llwyfannau’n cefnogi nifer o wasanaethau
Yn fyr, mae llwyfannau’n creu gwerth drwy ei gwneud yn gyflymach ac yn symlach i ddylunio gwell gwasanaethau a chyflawni bwriad polisi. Mae llwyfannau hefyd yn cefnogi nifer o wasanaethau.
Er bod gwasanaethau’n caniatáu i breswylwyr a’u cynrychiolwyr sicrhau rhyw fath o ganlyniad (cyfrifo a thalu bil treth, cofrestru eiddo fel llety gwyliau, neu weld hanes treth eiddo), mae llwyfannau’n amlygu rheolau a data llywodraeth mewn ffordd safonol, y gellir ei darllen gan beiriant, sy’n gwneud creu gwasanaethau’n gyflymach ac yn haws.
Gan fod llwyfannau’n datrys problemau cyffredin unwaith, gallant hefyd alluogi mathau newydd o wasanaeth. Er enghraifft, gallant alluogi gwasanaethau sy’n bodloni’r ‘egwyddor unwaith yn unig’, ble mae data a gedwir gan y llywodraeth eisoes yn cael ei ailddefnyddio, gyda mesurau diogelu priodol, er mwyn arbed amser i ddefnyddwyr. Neu alluogi integreiddio â meddalwedd arbenigol, fel y mae llwyfan Gwneud Treth yn Ddigidol CThEM yn ei wneud. Byddwn yn siarad mwy am wasanaethau mewn blogiau yn y dyfodol.
Mae llwyfannau’n cwrdd ag anghenion timau sy’n dylunio gwasanaethau
Mae llwyfan da yn fwy na dim ond set ddata. Mae angen eu cynllunio gydag anghenion timau sy’n dylunio gwasanaethau mewn golwg. Mae hynny’n golygu eu bod wedi’u dogfennu’n dda, yn hawdd dod o hyd iddynt ac yn sefydlog. Mae’r data’n cydymffurfio â safonau agored ac mae ganddo darddiad clir. Yn ddelfrydol, dylai tîm gwasanaeth allu codi a defnyddio llwyfan heb gymorth.
Gwella drwy ddefnyddio
Nodwedd olaf llwyfannau yw eu bod yn gwella drwy eu defnyddio. Yn sylfaenol, mae data’n cael ei gynnal ar y cyd er lles y cyhoedd yn ehangach.
Nodiadau wythnosol
Bob wythnos rydym yn rhannu diweddariad byr ar yr hyn rydym yn ei ddysgu, ynghyd â dolenni i bethau sydd, yn ein barn ni, yn ddiddorol neu'n berthnasol.
Blog
- Pam fod anghywirdebau’n llithro i gyfeiriadau ar ffurflen y Dreth Trafodiadau Tir?
- Sut gall map baentio darlun ehangach
- Crynhoi'r Prawf o Gysyniad
- Beth ddysgon ni o anghenion ein defnyddwyr?
- Sut y gwnaethom ni ddefnyddio nodiadau wythnosol
- Beth rydym wedi ei ddysgu o weithio’n agored
- Beth yw llwyfan data?
- Croeso
Prototeip
Fe wnaethom adeiladu nifer o brototeipiau i brofi ein rhagdybiaethau, gallu platfform a syniadau.